Heddlu'n tynnu corff o'r môr
- Cyhoeddwyd
Cafodd yr heddlu eu galw i draeth rhwng Aberdyfi a Thywyn wedi adroddiadau bod corff wedi cael ei weld yn y môr.
Fe ddaeth yr alwad i'r heddlu am tua 10:30am fore Llun.
Aeth plismyn lleol yno, a gyda chymorth gan Wylwyr y Glannau a'r gwasanaeth badau achub yr RNLI, maen nhw yn y broses o dynnu corff o'r dŵr.
Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y bydd y crwner yn cael ei hysbysu o'r digwyddiad, a'u bod nhw'n trin y farwolaeth fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.