Julian Swan yn colli achos apêl

  • Cyhoeddwyd
Julian Michael SwanFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Julian Swan wedi apelio yn erbyn ei gosb

Mae cyn-weithiwr cymdeithasol wnaeth fethu a rhybuddio teulu maeth ym Mro Morgannwg am y risg rhywiol oedd ynghlwm â llanc oedd yn eu gofal wedi colli ei apêl.

Roedd y bachgen, a oedd yn 19 ar y pryd, wedi ymyrryd yn rhywiol gyda dau o blant y teulu maeth.

Fe gafodd enw Julian Swan ei gymryd oddi ar gofrestr gweithwyr cymdeithasol ym mis Gorffennaf 2011 oherwydd camymddwyn proffesiynol.

Fe wnaeth tribiwnlys safonau wrthod honiad Mr Swan nad oedd y gosb yn ymateb priodol i'r hyn a wnaeth.

Mae'r achos yn dyddio'n ôl i 2008 pan gafodd llanc 19 oed, oedd ar fin gadael y system gofal, ei osod dan ofal teulu maeth yn y sir.

Ni chafodd y teulu rybudd am hanes y llanc o ymddygiad rhywiol amhriodol.

Aed a'r llanc i gartre'r teulu, ac aeth ymlaen i gyflawni ymosodiadau rhywiol difrifol ar ddau blentyn ifanc yn y cartref.

Ymddiheuro

Cafodd y llanc ei garcharu am gyfnod amhenodol yn ddiweddarach, ac fe wnaeth y cyngor sir ymddiheuro i'r teulu.

Roedd pwyllgor safonau Cyngor Gofal Cymru yn dweud y dylid cymryd enw Mr Swan oddi ar gofrestr gweithwyr cymdeithasol.

Fe wnaeth Mr Swan apelio'n erbyn y gosb, gan ddweud ei fod yn fwch dihangol.

Ond ddydd Llun fe benderfynodd tribiwnlys fod y gosb yn briodol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol