Casino Aspers i gau yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Aspers yn bwriadu cau eu casino yn Abertawe.

Deellir bod dros 100 o bobl yn gweithio yn yr adeilad ar Wind Street.

Dywed y cwmni eu bod wedi dechrau ar gyfnod ymgynghori o 90 diwrnod gyda'r gweithwyr.

Dyma'r casino mwya yng Nghymru.

Dywedodd Richard Noble, un o uwch swyddogion Aspers: "Rydym wedi cynnal arolwg o'r safle yn Abertawe, ac mae'n ymddangos nad yw parhau yn opsiwn masnachol."

Cafodd y casino ei agor yn 2007.

Roedd Abertawe yn un o wyth dinas gafodd eu dewis yn 2005 i gael trwydded ar gyfer casino bach.

Dywedodd Mr Noble eu bod wedi bod yn aros yn eiddgar i gael y drwydded honno.

"Byddai trwydded wedi caniatáu i ni allu cynnig mwy na chasino arferol.

"Yn anffodus dyw'r drwydded heb gael ei rhoi i dendr."

Dywedodd fod hynny a'r sefyllfa economaidd wedi arwain at y penderfyniad i gau.