Bygythiad 'eithriadoldeb Seisnig' medd Andrews

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Leighton Andrews ei sylwadau mewn araith yn Aberystwyth

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi cyhuddo llywodraeth y DU o "eithriadoldeb Seisnig" sy'n bygwth undod y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Leighton Andrews bod y glymblaid sy'n cael ei harwain gan y Ceidwadwyr yn gwneud penderfyniadau heb roi ystyriaeth i'r cyrff datganoledig.

Dywedodd bod y glymblaid yn cymryd arni ei bod yn siarad dros yr holl DU ar addysg, ond ei bod yn trafod Lloegr yn unig wrth son am ddiwygio'r gyfundrefn les.

Mynnodd llywodraeth y DU ei bod yn "deall ac yn parchu" datganoli.

Defnyddiodd Mr Andrews araith yn Aberystwyth i ymosod yn ffyrnig ar wneuthurwyr polisi yn Lloegr.

'Dewis clir'

"Mae'n glir nad ydynt wedi ystyried manylion eu polisïau a'u goblygiadau i weddill y DU, yn enwedig lle mae eu polisïau ar gyfer y DU yn galw am gydweithrediad gan y cyrff datganoledig," meddai.

Ychwanegodd bod y glymblaid yn cymryd arni i siarad am y DU ar addysg er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ffioedd dysgu uwch.

Dywedodd hefyd bod y glymblaid yn ystyried Lloegr fel "y model delfrydol" am ddarparu diwygiadau i'r gyfundrefn les.

Dywedodd: "O dan y glymblaid, polisi Lloegr sy'n symud i ffwrdd oddi wrth rannau eraill y DU.

"Eithriadoldeb Seisnig yw ymarfer gwleidyddol y glymblaid yma.

"Rwy'n credu'n gynyddol bod gennym ddewis clir. Gweledigaeth newydd i'r DU, fel y mae Prif Weinidog Cymru wedi cynnig, neu bolisi o eithriadoldeb Seisnig sy'n ceisio codi muriau o amgylch cadarnleoedd Ceidwadol."

'Uchelgeisiol'

Ond mynnodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, bod llywodraeth y DU yn deall ac yn parchu datganoli, ac yn parhau i drafod pob mater perthnasol gyda gweinidogion ym Mae Caerdydd.

Ychwanegodd bod y glymblaid yn "uchelgeisiol dros Gymru".

Dywedodd: "Y gwir amdani yw nad annibyniaeth nac arwahanrwydd sydd ei angen ar Gymru.

"Mae angen rhyng-ddibynrwydd y pedair cenedl i roi cryfder a diogelwch mewn cyfnodau anodd.

"Ac mae angen llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd i weithio gyda'i gilydd i greu'r amgylchiadau iawn ar gyfer twf economaidd, buddsoddiad a swyddi."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg mai mater i weinyddiaethau Cymru a Gogledd Iwerddon oedd sut i redeg eu sustemau addysg.

"Nid ydym yn ymddiheuro am geisio torri'r cylch o arholiadau mewn cyrsiau TGAU - ni ddylai ysgol fod yn fater o droedio'n ddiflas o un prawf i'r llall."

Ychwanegodd bod sefyll a phasio modiwlau wedi dod yn hollbwysig yn hytrach na chael "dealltwriaeth barhaus a chariad tuag at bwnc".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol