Cronfa i gofeb yn cyrraedd y nod
- Cyhoeddwyd

Mae Pwyllgor Codi Arian Fred Keenor wedi cyhoeddi eu bod wedi derbyn gweddill yr arian sydd angen i godi cofeb i gyn gapten Clwb Pêl-droed Caerdydd.
Dechreuodd ymgyrch yn 2010 i godi cofeb i'r dyn oedd yn gapten ar y clwb pan enillodd Caerdydd Gwpan FA Lloegr yn 1927.
Dydd Mawrth cyhoeddodd y pwyllgor bod Clwb Pêl-droed Caerdydd a Chymdeithas Pêl-droed Cymru wedi cytuno i roi'r £14,000 ychwanegol er mwyn cyrraedd y nod o £85,000.
Dywedodd rheolwr y cynllun, David Craig: "Rydym wrth ein bodd bod Caerdydd a'r Gymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau y byddan nhw'n rhoi'r £14,000 - mae'n newyddion gwych.
"Mae'r clwb wedi bod yn gefnogol i'r apêl ers 2010, ac mae Caerdydd a'r Gymdeithas yn cydnabod bod Fred Keenor yn eicon i chwaraeon Cymreig.
"Roedd yn gapten i'r clwb wrth ennill Cwpan yr FA yn 1927 - yr unig dro i'r Cwpan adael Lloegr - ac fe arweiniodd ei wlad ym mhencampwriaethau'r gwledydd cartref.
"Mae hon wedi bod yn ymgyrch gafodd ei harwain gan y cefnogwyr, ac mae cefnogwyr Caerdydd a Chymru wedi bod yn wych fel y mae nifer o fusnesau hefyd."
Phillip Nifield yw swyddog y wasg i'r apêl ac i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd a dywedodd:
"Ychydig dros ddwy flynedd sydd ers i ni gychwyn yr apêl, ac os fydd popeth yn mynd yn iawn fe ddylai'r gofeb gael ei chodi ym mis Medi.
"Fe fydd yn dirnod cofiadwy y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd."
Cododd cefnogwyr Caerdydd bron £4,500 wrth deithio i rownd derfynol Cwpan Carling yn Wembley eleni. Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi £15,000 i'r apêl ac fe gyfrannodd Llywodraeth Cymru £5,000.
Straeon perthnasol
- 26 Ionawr 2012
- 4 Mai 2011
- 4 Rhagfyr 2010