Cytundeb amddiffyn yn sicrhau swyddi
- Cyhoeddwyd

Bydd cytundeb i gyflenwi cerbydau arfog i'r fyddin yn diogelu a chreu cannoedd o swyddi yn ne Cymru, medd cwmni General Dynamics o America.
Fe roddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn sêl bendith i ariannu'r cynllun ddydd Llun.
Mae hyd at 300 o beirianwyr a rheolwyr prosiect yn ffatrï'r cwmni yn Oakdale, sir Caerffili, yn datblygu'r cerbydau.
Dywedodd y cwmni y byddai cannoedd o swyddi newydd yn cael eu creu yno wrth i'r gwaith o adeiladu'r cerbydau ddechrau.
Mae General Dynamics yn cyflogi tua 95,000 o bobl drwy'r byd, ac mae gan y cwmni ffatrïoedd eraill yn y DU.
Un o gynlluniau'r cwmni yw adeiladu tanc ysgafn i gymryd lle'r cerbyd Scimitar sy'n dod at ddiwedd ei oes - tanc a fydd, yn ôl y cwmni, yn cynnig mwy o ddiogelwch i filwyr.
Dywedodd Dr Sandy Wilson, llywydd a chyfarwyddwr General Dynamics UK: "Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n cadarnhau bod y cerbyd arbenigol (SV) newydd yn rhan o gynllun cerbydau'r dyfodol.
"Mae'n newyddion gwych i filwyr fydd yn defnyddio SV. Mae'n newyddion da hefyd i'r gadwyn gyflenwi yn y DU sy'n rhan o gynllunio ac adeiladu SV, ac yn newyddion da i General Dynamics yn ne Cymru."
Mae General Dynamics UK wedi arwyddo 24 o gytundebau gyda chyflenwyr yn y DU ac Ewrop, gan gynnwys cwmni Kent Periscopes yn Sir Ddinbych.
Mae'r cwmni o America wedi buddsoddi £12 miliwn yn eu hadnoddau yng Nghymru yn ddiweddar.