Anafiadau wedi damwain ffordd

Mae dau o bobl wedi cael eu hanafu mewn damwain ffordd yn Wrecsam ddydd Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Hanmer tua 9:00am ar ôl adroddiadau fod dau gerbyd wedi taro'n erbyn ei gilydd.

Roedd dau ambiwlans ar y safle a chafodd dynes yn ei 40au ei chludo i Ysbyty Maelor, Wrecsam, gydag anafiadau posib i'w hasennau.

Cafodd teithiwr arall driniaeth yn y fan a'r lle am fan anafiadau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.