Cyn gynghorydd yn euog o dwyll

  • Cyhoeddwyd
Michael MillsFfynhonnell y llun, Andrew Price
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Michael Mills ei fod yn teimlo euogrwydd am farwolaeth ei wraig

Mae cyn gynghorydd tref wedi pledio'n euog i hawlio budd-dal ar ran ei wraig ar ôl iddi farw.

Clywodd Ynadon y Fflint fod Michael Mills, cyn löwr, wedi hawlio £21,357 drwy dwyll.

Fe wnaeth Mills, 64 o Faesglas, ger Treffynnon, bledio'n euog i 14 cyhuddiad o dwyll.

Honnwyd yn y llys ei fod yn teimlo yn euog am orfod diffodd peiriant cynnal bwyd ei wraig, Brenda, ac nad oedd wedi dod i delerau gyda'i marwolaeth.

Dedfrydu

Bydd o'n cael ei ddedfrydu yn y dyfodol ond rhybuddiodd y fainc fod pob opsiwn yn cael ei ystyried, gan gynnwys carchar.

Roedd Mills yn gyn gynghorydd tre yn Nhreffynnon.

Clywodd y llys fod taliadau o £40 yr wythnos yn cael ei wneud yn enw ei wraig ar ôl iddi farw, a hefyd lwfans anabledd o £402 y mis.

Bu farw ei wraig ar Ionawr 23, 2010.

Cafodd Mills ei arestio ar Ionawr 16 eleni.

Gwrthododd a gwneud unrhyw sylw ar ôl iddo gael ei arestio.

Daeth i'r amlwg hefyd ei fod wedi celu'r ffaith ei fod yn derbyn pensiwn glöwr.

Diffodd

Roedd Mills wedi derbyn £21,357 yn anghyfreithlon - gan gynnwys £2,089 o gredid pensiwn, £5,239 lwfans gofalu, £4,066 o bensiwn y wladwriaeth a £9,962 o lwfans anabledd.

Dywedodd Brian Cross ar ran yr amddiffyn fod y cwpl wedi bod yn briod am 44 o flynyddoedd.

Clywodd y llys fod gwraig y diffynnydd yn hynod wael a bu'n gofalu amdani am bum mlynedd.

Ar gyngor meddygon fe benderfynwyd diffodd peiriant cynnal bwyd.

Dywedodd Mr Cross fod y diffynnydd yn ei chael hi'n anodd i ddod i delerau a'r penderfyniad a bod hyn wedi cael effaith arno.

"Mae o'n edifarhau ac am ymddiheuro am ei ymddygiad."