Patholegydd a mam yn rhoi tystiolaeth mewn cwest babi

  • Cyhoeddwyd
Noah TylerFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Noah Tyler ar Ragfyr 23 y llynedd

Mae mam babi fu farw oherwydd diffyg ocsigen ar ôl cael ei eni wedi dweud wrth y cwest i'w farwolaeth bod atgof ei enedigaeth yn ei "harteithio".

Bu farw Noah Tyler 10 mis ar ôl cael niwed parhaol i'w ymennydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn ôl patholegydd.

Roedd yr ysbyty wedi ymddiheuro i'w rieni, ac mae'r fydwraig oedd yn gofalu am yr enedigaeth wedi cael ei diswyddo.

Mae Colleen Tyler a'i gŵr, Hywel, o Gaerffili, yn dwyn achos o esgeulustod.

Dywedodd y patholegydd Alistair Lammie wrth y cwest yng Nghaerdydd: "Roedd 'na niwed parhaol i ymennydd Noah oherwydd diffyg gwaed ac ocsigen yn ystod yr enedigaeth."

'Sioc'

Yn ôl y fam 31 oed: "Fe ddywedon nhw wrtha' i y byddwn i'n clywed sŵn crio ond pan ddaeth allan chlywais i ddim byd.

"Roedd yn wyn iawn, nid fel o'n i'n disgwyl iddo edrych. Doedd 'na neb yn dweud unrhyw beth a doeddwn i ddim yn deall.

"Roeddwn i mewn sioc - meddyliais 'All hyn ddim bod yn digwydd'. Roeddwn i'n disgwyl y byddwn i'n gafael yn fy mabi erbyn hynny ond doedd e ddim yno."

Clywodd y cwest fod Noah wedi cael ei ruthro i grud cynnal ar ôl ei enedigaeth a'i roi ar arwynebedd arbennig i geisio ei oeri ac osgoi rhagor o niwed i'w ymennydd.

Fe dreuliodd y tri mis nesa'n cael triniaeth arbenigol yn yr ysbyty.

Dywedodd Mrs Tyler: "Allai dim fod wedi fy mharatoi ar gyfer yr hyn oeddwn i am ei weld, y peth bach yn gorwedd yn y crud cynnal gyda phentwr o diwbiau yn dod allan ohono.

"Doeddwn i ddim yn gallu dirnad beth oedd yn digwydd.

"Rwy'n ailfyw'r enedigaeth yn fy mhen ac yn arteithio fy hun. Beth petawn i wedi gallu gwneud rhywbeth yn wahanol i achub Noah, rwy'n troi mewn cylchoedd yn meddwl am y peth."

Wnaeth Noah ddim gwella rhyw lawer a chafodd ei symud i'r ysbyty plant, ond bu farw ar Ragfyr 23 y llynedd.

Mae disgwyl i'r cwest bara deuddydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol