Tirlithriad yn bygwth swyddi mewn chwarel
- Cyhoeddwyd

Gallai swyddi mewn chwarel lechi yng Ngwynedd fod dan fygythiad wedi i hanner miliwn tunnell o lechi ddisgyn o wyneb y graig yno.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r digwyddiad yn Chwarel Penrhyn ger Bethesda fis diwethaf.
Mae rhannau o'r chwarel wedi eu cau, ac mae oriau tua 90 o'r gweithlu o 200 wedi cael eu cwtogi, ac eraill wedi eu symud i adrannau eraill.
Dywedodd cwmni Welsh Slate eu bod yn anelu at ddiswyddiadau gwirfoddol a'u bod yn gobeithio osgoi rhai gorfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch bod y tirlithriad wedi digwydd ar Ebrill 27, am tua 5:30am, ond na chafodd neb anaf.
Mae Chwarel Penrhyn yn cynhyrchu llechi ar gyfer toi a'r diwydiant adeiladu, ac mae'n allforio'u cynnyrch ar draws y byd.
Roedd y cwmni yn y broses o adlinio'r chwarel i gymryd mantais o wythiennau newydd er mwyn ymestyn oes y safle, a dywedodd na fyddai'r tirlithriad yn effeithio ar y cynlluniau hynny.
'Dewis'
Mewn datganiad, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y chwarel, Chris Allwood: "Mae'r tirlithriad ddigwyddodd ar Ebrill 27 wedi lleihau maint y cynnyrch sydd ar gael i'w brosesu yn Chwarel Penrhyn.
"Mae hyn wedi cael effaith ar ein hallbwn o lechi toi.
"Rydym yn cymryd camau i liniaru'r effaith ar ein gweithlu, ac yn symud pobl i rannau eraill o'r busnes lle mae hynny'n bosib.
"Mewn trafodaeth gyda'r gweithlu, bu pleidlais ar y dewis o weithio am amser byrrach yn yr adrannau sydd wedi dioddef ymysg aelodau undeb Unite, ac fe gafodd hwnnw'i basio ar Fai 10 gyda'r mwyafrif yn dewis symud i wythnos waith o bedwar diwrnod.
"Bydd staff yn yr adrannau dan sylw yn newid i batrwm gwaith pedwar diwrnod o Fai 21."
Ychwanegodd Mr Allwood bod rheolwyr yn ceisio osgoi diswyddiadau gorfodol, ac yn ystyried ceisiadau am ddiswyddo gwirfoddol o bob rhan o'r busnes.
Straeon perthnasol
- 11 Mai 2012