Ryan Giggs yw chwaraewr gorau yr Uwch Gynghrair dros gyfnd o 20 tymor
- Cyhoeddwyd

Y Cymro Ryan Giggs sydd wedi ei enwi fel y chwaraewr gorau yn ystod 20 mlynedd cyntaf yr Uwch Gynghrair.
Cafodd ei ddewis fel chwaraewr gorau'r Uwch Gynghrair gan banel o arbenigwyr.
Ei reolwr yn Manchester Unites, Syr Alex Ferguson, gafodd ei enwi fel rheolwr gorau'r Uwch Gynghair.
Dywedodd Giggs ei fod yn mwynhau chwarae'r gêm "yn fwy nac erioed".
"Roedd yn siomedig i beidio ennill y gynghrair eto eleni, ond mae hi wedi bod yn dymor cyffrous," meddai.
Fe sgoriodd Giggs pedwar o goliau'r tymor hwn.
"Rwyf wedi mwynhau 20 tymor - dyna pam dwi'n dal i chwarae.
"Mi fyddaf yn parhau i chwarae tra dwi'n mwynhau ac yn dal i gael fy newis.
"Rwy'n teimlo'n dda ar hyn o bryd."
Dywedodd Giggs ei fod wedi nabod Ferguson ers bod o'n 13 oed.
"Roedd o'n gwybod fy enw, enwau fy rhieni a manylion bach wnaeth argraff fawr arnaf.
"Mae'n dda wrth ddelio'n bersonol gyda phobl, ef sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar fy ngyrfa," ychwanegodd.