Clwb Rygbi Pont-y-Pŵl am ddal i chwarae yn yr Uwch Gynghrair
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Rygbi Pont-y-Pŵl yn gobeithio dod i gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru am gynlluniau'r undeb i ad-drefnu'r Uwch Gynghrair.
O dan gynlluniau presennol yr undeb fe fyddai'r clwb yn gorfod disgyn wrth i'r Uwch Gynghrair leihau o 14 tîm i 12.
Mae disgwyl i her gyfreithiol Pont-y-Pŵl gael ei glywed mewn achos yn Yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Mehefin.
Mae'r Undeb eisiau lleihau nifer y clybiau sy'n chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.
Fe gafodd bob un o'r 14 clwb sydd yno ar hyn o bryd eu hasesu.
Cafodd 12 drwyddedau eu cyhoeddi ar sail gwahanol ffactorau a oedd yn cynnwys datblygiad ieuenctid a safon y stadiwm.
'Cytundeb ffurfiol'
Mae Pont-y-Pŵl yn un o ddau glwb na dderbyniodd drwydded.
Fe fyddan nhw felly yn gorfod chwarae'r tymor nesaf yn ail haen y Bencampwriaeth, sydd newydd ei sefydlu.
Ond mae'r clwb yn herio'r modd y gwnaeth yr Undeb ddelio gyda'r broses asesu ac mae'r achos wedi ei drefnu ar gyfer diwedd mis Mehefin.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y clwb, Frank Stanton, y byddai'n dymuno dod i "gytundeb ffafriol" gyda'r undeb cyn hynny.
Mae o am i Bont-y-Pŵl gael chwarae yn yr Uwch Gynghrair fel y 13eg clwb.
Mae'r Undeb yn dweud eu bod yn bwriadu herio'r achos gydag egni a hyder ar sail eu bod yn gwybod eu bod wedi ymddwyn yn gywir.
Mae'n dweud hefyd bod yr ad-drefnu wedi ei wneud er mwyn "sicrhau safon rygbi a'i fod yn parhau i wella a chryfhau'r cyllid sydd ar gael yn deg".