Wyth o enwogion yn dysgu'r Gymraeg o flaen y camerau
- Cyhoeddwyd

Ymhlith yr enwogion fydd yn ceisio dysgu Cymraeg mewn cyfres newydd o cariad@iaith ar S4C y mae'r seren rygbi Gareth Thomas, y tenor Wynne Evans a'r cyflwynydd newyddion Lucy Owen.
Yn ymuno â nhw mae'r actor Robert Pugh, cyn-gystadleuydd ar yr X-Factor Lucie Jones, cyflwynydd CBeebies Alex Winters, yr actores Di Botcher a chyflwynydd Scrum V Lisa Rogers.
Fe fydd yr wyth yn cael cyfle i ddysgu'r iaith ac yn profi eu sgiliau mewn amrywiol dasgau.
Bydd cyfle i gyfarfod yr wyth mewn rhaglenni arbennig ar S4C ar Fai 23 a 24.
Yna rhwng Mai 26 a 31 fe fydd yr wyth i'w gweld yn dysgu'r iaith wrth i Nia Parry a Gareth Roberts ddod a'r diweddara yn fyw o wersyll fforest ger Cilgerran.
Yn ddyddiol fe fydd y criw yn mynychu gwersi Cymraeg dwys gyda'r tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn cyn profi eu sgiliau newydd mewn cyfres o dasgau ieithyddol.
'Hyder'
Y llynedd gwelwyd Josie d'Arby, Matt Johnson, Colin Charvis, Melanie Walters, Lembit Öpik, Helen Lederer, Rhys o GLC a Sophie Evans yn ceisio dysgu'r iaith.
Erbyn hyn mae Matt yn cyflwyno'r gyfres Hwb i ddysgwyr ar S4C gyda Nia Parri.
"Buaswn i wrth fy modd yn cymryd rhan eto!" meddai Matt.
"Roedd cariad@iaith yn brofiad anhygoel.
"Roedd e'n llawer mwy na rhaglen deledu, a doedd e ddim yn one off.
"Fe roddodd e'r hyder i mi barhau gyda fy ngwersi Cymraeg.
"Mae gen i deimlad fod y gyfres yma yn mynd i fod yn anhygoel."
Bydd modd dilyn y diweddara ar Twitter, Facebook a gwefan cariad@iaith.