Aaron Shotton i arwain Cyngor Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Aaron Shotton a Bernie AttridgeFfynhonnell y llun, Cyngor Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Aaron Shotton a Bernie Attridge eu hethol yn y cyfarfod blynyddol ddydd Mawrth

Mae gan Gyngor Sir y Fflint arweinydd newydd.

Wedi cyfarfod o'r cyngor ddydd Mawrth cafodd Aaron Shotton ei ethol yn Arweinydd.

Mae'n olynnu Arnold Woolley a oedd yr arweinydd cyn yr etholiadau yn gynharach yn y mis.

Cafodd y Blaid Lafur fwy o seddi nag unrhyw blaid arall yn yr etholaidau ar Fai 3 ond doedd 30 sedd ddim yn ddigon iddyn nhw gael rheolaeth lwyr.

Mae'r blaid wedi dod i gytundeb i arwain y cyngor gydag aelodau annibynnol.

Bu Mr Shotton yn arweinydd y cyngor rhwng mis Rhagfyr 2006 a mis Mai 2008.

Mae Mr Shotton wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers 1999 a chafodd ei ethol yn Ddirprwy Arweinydd ym mis Ionawr 2006.

Cynghorydd tref

Roedd yn aelod o'r bwrdd rheoli gyda chyfrifoldeb ym meysydd yr Amgylchedd ac Adfywio a'r Strategaeth Gorfforaethol hefyd.

Mae'n cynrychioli Ward Canol Cei Connah.

Yn y gorffennol mae Mr Shotton wedi bod yn Ddirprwy Llefarydd Cyllid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Tref Cei Connah ers 1996 a, bryd hynny, ef oedd y Cynghorydd Llafur ieuengaf yn y DU.

Bu hefyd yn Gadeirydd y Cyngor Tref.

Mae hefyd yn aelod o gyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Bryn Deva ac Ysgol Uwchradd Cei Connah.

Arferai gynrychioli Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cenedlaethol yr undeb.

Cafodd Bernie Attridge ei ethol yn Ddirprwy Arweinydd.

Mae Mr Attridge wedi bod yn aelod o'r cyngor ers 2004 ac mae'n cynrychioli Ward Canol Cei Connah.

Mae'n aelod o Gyngor Tref Cei Connah ers 13 mlynedd ac mae'n gyn-gadeirydd.

Mae hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Fabanod Dee Road a chorff llywodraethu dros dro ysgol gynradd newydd Brookfield, Cei Connah.

Cyn dod yn gynghorydd sir roedd yn bartner mewn cwmni tacsis.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir y Fflint