Clymblaid i reoli Cyngor Sir Mynwy
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dod i gytundeb ynglŷn â rheoli Cyngor Sir Mynwy.
Y Ceidwadwyr oedd yn rheoli'r hen gyngor, ond ar ôl etholiadau Mai 3ydd, roedden nhw dair sedd yn brin.
Bydd yna gyhoeddiad ffurfiol mewn cynhadledd i'r wasg yn Neuadd y Sir ddydd Iau.
Mae gan y Ceidwadwyr 19 o gynghorwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol 3, gan olygu cyfanswm o 22 allan o 43.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, y cynghorydd Peter Fox: "Rydym yn bwriadau llunio agenda bositif a chreu cyfloed drwy weithio fel partneriaeth."
Dywedodd y cynghorydd Phil Hobson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol: "Rwy'n gwybod y gallai'r bartneriaeth roi arweinyddiaeth llawn egni i'r sir dros gyfnod o bum mlynedd."
Straeon perthnasol
- 17 Mai 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol