Caerdydd: Bwrdd yn trafod dyfodol
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau o Fwrdd Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cwrdd â'r cadeirydd Dato Chan Tien Ghee, er mwyn trafod dyfodol y clwb.
Dywed datganiad gan y clwb fod Tien Ghee wedi cyfleu syniadau gan y gwŷr busnes o Falaysia sydd wedi buddsoddi yn y clwb mewn cyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Yn ôl y datganiad roedd yna hefyd gyfle i aelodau'r bwrdd sy'n byw yn y Deyrnas Unedig i drafod y ffordd orau ymlaen.
Mae disgwyl i Tien Ghee ddychwelyd i Falaysia ddydd Mercher ar gyfer rhagor o drafodaethau yno.
Un o brif fuddsoddwyr o Falasia yw Vincent Tan.
Roedd o wedi bod yn sôn am fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd, ond byddai'n rhaid hefyd i'r clwb newid.
Cynhesrwydd
Wythnos diwethaf cythruddwyd rhai cefnogwyr gyda sôn fod yna gynlluniau i'r tîm chwarae mewn coch, ac i fabwysiadu logo newydd sef y ddraig.
Ar ôl y cyfarfod nos Fawrth dywedodd Tien Ghee: "Rwyf am ailadrodd fod yna ymroddiad a chynhesrwydd i'r clwb yma oddi wrthyf fi a Tan Sri Vincent Tan.
"Y clwb yma a'r cefnogwyr yw ein blaenoriaeth ac rydym yn gobeithio cwblhau pethau yn fuan, a hynny gyda'r canlyniad gorau posib.
"Rwyf yn dymuno diolch i'r rhai sy wedi anfon neges o gefnogaeth, unai yn uniongyrchol neu drwy' clwb.
"Bydd yna ddim cyhoeddiad arall am y tro.
"Rydym yn deall yr awydd am newyddion, a byddwn yn rhyddhau gwybodaeth ar y cyfle cyntaf."
Straeon perthnasol
- 10 Mai 2012
- 9 Mai 2012
- 9 Mai 2012
- 11 Mai 2012