Pennaeth y Principality, Peter Griffiths, i adael ei swydd

  • Cyhoeddwyd
Peter GriffithsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Derbyniodd Peter Griffiths yr OBE yn 2010

Mae prif weithredwr un o gymdeithasau adeiladu mwyaf Cymru yn gadael ar ôl ei harwain "drwy un o'r cyfnodau anodda' ym myd bancio".

Dywedodd Peter Griffiths, sydd wedi bod ar y brig am 10 mlynedd gyda'r Principality, bod y gymdeithas mewn sefyllfa dda er gwaetha'r hinsawdd economaidd.

Mae gan y Principality 52 o ganghennau yng Nghymru a'r cwmni, a sefydlwyd yng Nghaerdydd, yw'r seithfed cymdeithas adeiladu mwya' yn y DU.

Dywedodd un dadansoddwr nad ydi llawer o gymdeithasau adeiladu yn cymryd risg fel y banciau ac yn gallu parhau yn broffidiol.

Dywedodd y Principality yn ddiweddar eu bod wedi cael blwyddyn "iachus" a bod ganddyn nhw elw cyn-treth o £24.5 miliwn a chynnydd mewn benthyciadau morgais.

Brand i'w ymddiried

Mae ganddyn nhw 500,000 o fenthycwyr a chynilwyr.

Dywedodd Mr Griffiths ei fod wedi gorfod moderneiddio ac adeiladu'r cwmni ar ôl cael ei apwyntio i'r brif swydd ym mis Mawrth 2002.

"Mae wedi bod yn brofiad gwych. I ddechrau roedd cymysgedd o foderneiddio a thyfu cyn gweld y cwmni yn goroesi yn un o'r cyfnodau anodda' ym myd bancio erioed.

"Mae'r gymdeithas wedi goroesi a dwi'n gadael tîm o reolwyr profiadol a chryf, brand i'w ymddiried a dyfodol sy'n llawn cyfleon."

Dywedodd fod 'na gymysgedd o emosiwn wrth adael y gwaith.

"Does gen i ddim cynlluniau am be na lle i fynd nesa," meddai.

"Dwi'n gredwr cryf mewn ffawd ac fe fyddaf yn ystyried yr opsiynau yn y misoedd nesaf.

Mae bwrdd y Principality wedi dechrau chwilio am olynydd i Mr Griffiths.

Fe fyddan nhw'n ystyried ymgeiswyr mewnol ac allanol.

Bydd Mr Griffiths yn parhau yn ei waith tan y bydd olynydd addas wedi ei ganfod.

"Rydym yn derbyn ei ymddiswyddiad gyda chalon drom," meddai llefarydd.

"Mae ei sgiliau arweinyddol, ymwybyddiaeth strategol a synnwyr cyffredin at fusnes wedi bod yn amhrisiadwy dros y deng mlynedd diwethaf.

Dywedodd Chris Skinner, dadansoddwr ar fancio, bod y Principality wedi gwneud yn dda iawn i fod yn broffidiol yn ystod yr argyfwng bancio diweddar.

"Fel cymdeithas adeiladu wnaethon nhw ddim cymryd risg fel y banciau," meddai.

"Oherwydd bod y rhan fwyaf o gymdeithasau adeiladu yn gweinyddu er budd eu haelodau - maen nhw'n canolbwyntio ar fusnes y cwsmer - a ddim yn peryglu arian y cyfranddalwyr.

"Fe aeth y cymdeithasau oedd yn ccc (plc) - fel Northern Rock a'r Halifax - i drafferthion am nad oedden nhw'n gweinyddu er budd eu haelodau.

"Mae Peter wedi gwneud gwaith da yn y Principality ac mae hi wedi tyfu llawer mwy nag yr oedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol