Llwyddo i brynu goleudy ar ynys Sgogwm

  • Cyhoeddwyd
Goleudy Ynys SgogwmFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r tir o amgylch y goleudy yn gartref i nifer o adar prin

Mae Ymddiriedolaeth Natur y De a Gorllewin Cymru wedi llwyddo i brynu'r goleudy ar ynys Sgogwm oddi ar arfordir sir Benfro.

Bellach nhw ydi perchnogion yr ynys gyfan sydd yn gyrchfan mor bwysig i rai o adar mwyaf prin y byd.

Yr ynys hon sydd â'r boblogaeth fwyaf dwys o adar Pal Manaw (Manx Shearwater) yn y byd.

Fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth brynu'r rhan fwyaf o'r ynys yn 2006 ar ôl codi £650,000.

£250,000

Ym mis Awst y llynedd lansiwyd apêl i godi £250,000 er mwyn prynu'r goleudy.

Cafwyd cefnogaeth aruthrol yn ôl y trefnwyr, gan godi £150,000 mewn pedwar mis diolch i gefnogaeth yn lleol a chan rai o aelodau'r ymddiriedolaeth.

Cafodd yr apêl hwb gan rodd o ystâd y diweddar Ken Price - aelod o'r Ymddiriedolaeth - a adawodd swm sylweddol i'r apêl.

Mae'r arian sydd wedi dod i law yn debyg o fedru talu am wneud gwaith adnewyddu sydd angen ei wneud ar adeiladau'r ynys.

Mae'n fwriad gan yr ymddiriedolaeth adnewyddu'r goleudy a chaniatáu i bobl dreulio'r nos ynddo.

Dywedodd Llinos Richards ar ran yr ymddiriedolaeth: "Mae'n hyfryd iawn i gael yr allweddi i'r goleudy.

"Mae medru aros yma dros nos a gweld yr adar yn brofiad gwefreiddiol ac unigryw".

Llygod mawr

Dywedodd warden yr ynys y llynedd: "Fe fyddwn i'n poeni petai rhywun arall yn prynu'r goleudy a'r tir rhag ofn i niwed gael ei wneud i dyllau nythu eithriadol o wanllyd sydd yno.

"Yn waeth na hynny, fe allai rhywun gludo llygod mawr i'r ynys yn ddamweiniol, ac fe fyddai hynny'n gwneud difrod mawr i adar sy'n nythu ar lawr sy'n ffynnu ar draws yr ynys - adar fel y pal, pedryn drycin a pal Manaw."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol