Y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn gwrthod apêl Steven Shingler
- Cyhoeddwyd

Mae Shingler yn chwarae i glwb Gwyddelod yn Llundain
Mae'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi penderfynu yn unfrydol mai dim ond i Gymru y gall Steven Shingler chwarae.
Roedd Undeb Rygbi'r Alban wedi apelio yn erbyn dyfarniad gwreiddiol pwyllgor rheolau'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol. - ond mae'r apêl wedi ei gwrthod.
Mae'r maswr 20 oed sy'n chwarae i'r Gwyddelod yn Llundain wedi cynrychioli Cymru ar lefel dan 20 yn erbyn Ffrainc yn 2011.
Ond roedd Undeb Rygbi Alban am ei gynnwys yn eu carfan ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni, gan fod ei fam yn Albanes.
Straeon perthnasol
- 8 Mawrth 2012
- 12 Ionawr 2012
- 6 Ionawr 2012
- 12 Chwefror 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol