1,000 yn llai'n ddi-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Yn ôl ffigyrau Ionawr tan Fawrth roedd 132,000 o bobl yn ddi-waith.
Bu gostyngiad o 1,000 yn nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru yn nhri mis cyntaf y flwyddyn.
Yn ôl ffigyrau Ionawr tan Fawrth roedd 132,000 o bobl yn ddi-waith.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau fod 9% yn ddi-waith, gostyngiad o 0.1% ar y tri mis blaenorol.
Ond parhau i godi mae canran y menywod sy'n ddi-waith.
Collodd 8,000 ohonyn nhw eu swyddi rhwng Ionawr a Mawrth tra oedd gostyngiad o 9,000 ymhlith nifer y dynion di-waith.
Yn y pedair gwlad roedd gostyngiad o 45,000 i gyfanswm o 2.63m.
Yng Nghymru roedd 79,500 yn hawlio lwfans chwilio am waith yn Ebrill, 300 yn llai na'r sefyllfa ym Mawrth.
Straeon perthnasol
- 9 Ebrill 2012
- 14 Mawrth 2012
- 13 Mawrth 2012
- 15 Chwefror 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol