Cytundeb dan reolaeth Plaid Cymru i reoli Cyngor Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf BleidleisioFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Bydd isetholiad ar Fehefin 14

Plaid Cymru fydd yn rheoli Cyngor Gwynedd mewn cytundeb gyda Llafur.

Ar ôl etholiadau Mai 3 roedd gan Blaid Cymru 37 sedd a'r pleidiau a grwpiau eraill 37, gan gynnwys pedair yn nwylo Llafur.

Bydd isetholiad ar gyfer y 75ed sedd yn ward Bryncrug a Llanfihangel, Meirionnydd, ar Fehefin 14.

Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Rwyf wedi cynnal trafodaethau gyda dau grŵp o gynghorwyr ers pythefnos.

"Erbyn nos Lun roedd gennym un cynnig ar y bwrdd, gan y grŵp Llafur.

"Yn ein cyfarfod ym Mhorthmadog, fe benderfynwyd derbyn cynnig grŵp Llafur i weithio gyda Plaid ar faniffesto blaengar ac uchelgeisiol ar gyfer Gwynedd."

"Yn ôl y trefniant newydd, bydd Llafur yn cael cynnig un o'r 10 swydd yn y Cabinet a chadair un pwyllgor.

Bydd Plaid Cymru yn dal y naw swydd Cabinet arall."

Y Cabinet yw'r prif gorff penderfynu yn unol â deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.

"Er ein bod wedi trafod gyda grŵp o gynghorwyr Annibynnol hefyd, doedd dim cynnig ar y bwrdd ar gyfer cyfarfod grŵp y Blaid nos Lun," meddai Mr Edwards.