Y we: 'Holl rym y gyfraith'
- Cyhoeddwyd

Bydd unrhyw un sy'n cyhoeddi enwau pobl sydd wedi cael eu treisio ar y we yn wynebu "holl rym y gyfraith", yn ôl un o chwipiaid Llywodraeth San Steffan.
Daw hyn ar ôl i 16 o bobl gael eu harestio yn y gogledd a Sir Efrog gan Heddlu'r Gogledd ar ôl i enw menyw gafodd ei threisio gan y pêl-droediwr Chad Evans gael ei gyhoeddi ar y we.
Cafodd enw'r fenyw ei ryddhau ar ôl i lys gael y pêl-droediwr yn euog o'i threisio mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Dywedodd chwip y llywodraeth, Shailesh Vara, yn Nhŷ'r Cyffredin: "Mae gan ddioddefwyr sydd wedi eu treisio neu'n diodde' ymosodiadau rhywiol yr hawl i fod yn anhysbys am oes.
"Pan fod yr ymddiriedaeth hynny yn cael ei thorri, fe fydd holl rym y gyfraith yn weithredol.
"Mae'n amlwg bod angen i ni arolygu'r we yn well nag yr ydym yn y gorffennol".
Pum mlynedd
Cafodd Ched Evans, oedd yn chwarae i Sheffield United, ei garcharu am bum mlynedd am fod yn euog o dreisio'r fenyw 19 oed.
Y penwythnos ar ôl yr achos cafodd enw'r fenyw ei ryddhau ar wefan Twitter.
Mae Evans, sydd hefyd wedi cynrychioli Cymru, yn dweud y bydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad.
Straeon perthnasol
- 26 Ebrill 2012
- 24 Ebrill 2012
- 23 Ebrill 2012
- 20 Ebrill 2012