Alex Cuthbert i aros gyda'r Gleision

  • Cyhoeddwyd
Alex CuthbertFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Alex Cuthbert wedi ei gysylltu â chlybiau yn Ffrainc

Mae chwaraewr y Gleision Alex Cuthbert wedi penderfynu aros gyda'r clwb am flwyddyn arall.

Mae'r asgellwr 22 oed wedi chwarae chwe gwaith i Gymru ac roedd wedi ei gysylltu â chlybiau Ffrainc, Toulon a Racing Metro.

Wedi i'r Gleision gynnig cytundeb chwe ffigwr i'r asgellwr mae wedi ymestyn ei gytundeb am flwyddyn.

"Yn amlwg, roedd yn rhaid i mi a'r teulu bwyso a mesur llawer o bethau wrth feddwl am y dyfodol," meddai.

"Ond dwi wrth fy modd yn arwyddo am flwyddyn arall."

Sgoriodd geisiau pwysig yn erbyn Yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol, gan gynnwys Gethin Jenkins, John Yapp, Richie Rees a Rhys Thomas, wedi penderfynu gadael y Gleision ar ddiwedd y tymor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol