Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2012 o gopa'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2012 ei chyflwyno o leoliad anarferol eleni.
Pobl ifanc Eryri sydd wedi creu'r neges ac fe gafodd ei gyflwyno ar Ddiwrnod Neges Ewyllys Da o gopa'r Wyddfa.
Roedd y perfformiad arbennig o'r neges wedi ei seilio ar ddelfrydau'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Dywed y neges eleni: "Er bod rhyfeloedd yn parhau i'n rhwygo, mae'r Olympiad yn gyfle prin i sbarduno fflam undod rhyngwladol.
"Ystyriwch dri o ddaliadau'r Olympiad erbyn heddiw; chwarae teg, gwaith caled a pheidio twyllo.
"Ychwanegwch y gymdeithas o gannoedd o ddiwylliannau amrywiol, ac wele'r Olympiad yn rhoi cartref i heddwch.
"Mae pawb yn sefyll ar y llinell gychwyn gyda'i gilydd; i ddathlu dawn ac i anghofio'n gwahaniaethau.
"Cyhoeddwn Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn gyflymach, yn uwch ac yn gryfach nag erioed o'r blaen gan rannu grym ei fflam i bedwar ban byd."
Grym y Fflam
Ers 1922 mae'r broses o anfon neges ar ran bobl ifanc Cymru i bobl ifanc yng ngweddill y byd wedi bod yn ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.
Rhoddwyd y cyfrifoldeb yn y 1950au i Urdd Gobaith Cymru gyhoeddi'r neges yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Dda, Mai 18, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn Yr Hâg yn 1899.
Ers hynny mae grwpiau o bobl ifanc wedi derbyn y cyfrifoldeb i greu'r neges, ei pherfformio ynghyd â'i chyfieithu i nifer fawr o ieithoedd i'w dosbarthu i bobl ifanc y byd.
Mae'r neges eleni yn rhan o brosiect Grym y Fflam a ariennir gan Legacy Trust UK sy'n dathlu'r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru a chreu treftadaeth o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Eleni mae'r neges yn 89 mlwydd oed, ac ers 1922 mae'r neges wedi bod yn ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol yr Urdd.
Anfonwyd y neges gyntaf gan Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni.
Roedd yn heddychwr mawr ac yn flaenllaw wrth sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO.
Credai mewn dod â phlant y cenhedloedd ynghyd, ac fe benderfynodd Syr Ifan y dylai'r Urdd ymuno gyda'r fenter o gyhoeddi'r neges er mwyn dileu'r anwybodaeth a'r rhagfarnau a oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd.
Darlledwyd y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service ym 1924 ac erbyn heddiw mae'r neges yn ymddangos mewn 34 iaith ar y we, ac yn cyrraedd pedwar ban byd.
Straeon perthnasol
- 18 Mai 2011
- 18 Mai 2010