Cyfle i weld llyfr prin gan Charles Dickens

  • Cyhoeddwyd
Argraffiad prin o Oliver Twist, a oedd y llyfr cyntaf i gael enw Dickens ar y dudalen deitl, yn hytrach na'i ffugenw BozFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,
Argraffiad prin o Oliver Twist, a oedd y llyfr cyntaf i gael enw Dickens ar y dudalen deitl, yn hytrach na'i ffugenw Boz

Mae rhifyn prin o Oliver Twist gan Charles Dickens i'w weld ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd.

Ceir cyfle i weld arddangosfa 'Charles Dickens - Bywyd mewn Print' yn Narllenfa Shankland ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor er mwyn dathlu daucanmlwyddiant genedigaeth yr awdur enwog.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys argraffiad prin o Oliver Twist.

Hwn oedd y llyfr cyntaf i gael enw Dickens ar y dudalen deitl, yn hytrach na'i ffugenw Boz ac mae'n cynnwys y darlun enwog o 'Oliver yn gofyn am fwy'.

Fel rhan o'r arddangosfa mae Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor hefyd wedi trefnu sgwrs, 'Dickens and His Manuscripts', gan Dr Rowan Watson, Curadur Llawysgrifau, yr Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.

Fe fydd y sgwrs am 2pm Mai 23 yn Ystafell Alun 101 yng Nghanolfan Rheolaeth y Brifysgol.

Yn ystod y sgwrs, bydd Dr Watson yn dangos delweddau o gasgliadau'r amgueddfa.

'Lluniau bywiog'

Un o'r uchafbwyntiau fydd y llawysgrif o 'The Mystery of Edwin Drood', darn o waith terfynol Dickens.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,
Dr Stephen Colclough gydag argraffiad prin o Oliver Twist, a oedd y llyfr cyntaf i gael enw Dickens ar y dudalen deitl, yn hytrach na'i ffugenw Boz

"Mae'r arddangosfa yn cynnwys rhywogaethau prin Dickens, gan gynnwys y rhifyn cyntaf o lyfr i gael ei enw ar y dudalen deitl sef Oliver Twist," meddai Dr Stephen Colclough o'r Ysgol Saesneg.

"Hefyd, mae'r llyfr yn cynnwys darluniau gwych ac mae ei luniau bywiog o Oliver a Bill Sikes yn wirioneddol werth eu gweld.

"Mae'r arddangosfa yma, sy'n cynnwys eitemau o gasgliad Llyfrau Prin y Brifysgol yn ein helpu i gydnabod pwysigrwydd Dickens fel golygydd, newyddiadurwr a nofelydd.

"Rydym yn edrych ymlaen yn arbennig at yr ymweliad gan Dr Rowan Watson, sydd wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu am Dickens yn ddiweddar, a bydd yn siarad am y llawysgrifau prin a geir yng nghasgliadau'r Amgueddfa Victoria ac Albert casgliadau."

Mae'r arddangosfa wedi cael ei drefnu gan Archifau a Chasgliadau Arbennig gyda Dr Stephen Colclough o Ysgol y Saesneg ac mae ar agor i'r cyhoedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol