Asbestos: Cefnogi mesur preifat i gyflogwyr dalu'r gost feddygol
- Cyhoeddwyd

Gall cyflogwyr fod yn talu costau meddygol staff sy'n diodde' o effeithiau asbestos petai deddfwriaeth sydd wedi ei gynnig gan un o Aelodau'r Cynulliad yn dod yn ddeddf.
Fe fyddai mesur aelod Pontypridd, Mick Antoniw, yn gorfodi cyflogwyr neu eu hyswiriwr i ad-dalu'r Gwasanaeth Iechyd am drin cleifion sydd wedi diodde' o effeithiau asbestos.
Fe wnaeth ACau gefnogi'r cais ddydd Mercher, y cam cyntaf mewn proses hir a allai arwain ato'n cyrraedd y Llyfr Statud.
Dywedodd un arbenigwr bod 'na ddadl ar gyfer y syniad ond rhybuddiodd y gallai cyflogwyr "bledio anwybodaeth" mewn hen achosion.
Gweithiodd Mr Antoniw ar achosion cannoedd o ddioddefwyr a'u teuluoedd fel cyfreithiwr cyn cael ei ethol i'r cynulliad.
Dywedodd yr AC Llafur y dylai cyflogwyr esgeulus fod yn atebol am gost y Gwasanaeth Iechyd i drin achosion sy'n gysylltiedig ag asbestos.
Fe wnaeth ACau gymeradwyo'r cynnig ddydd Mercher o 54-o ar ôl dadl yn Y Senedd.
Tu allan i Gymru
Fe fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu adfer cost triniaeth gan gyflogwr neu yswiriwr ar ôl dyfarniad neu setliad mewn achos sifil.
Fe fyddai'r mesur yn berthnasol i gyflogwyr y tu allan i Gymru petai'r claf yn cael triniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Roedd asbestos yn cael ei ddefnyddio yn gyson fel deunydd adeiladu yn y 1950au hyd yr 1980au.
Gall y ffibrau achosi anhwylder ar yr ysgyfaint o'i anadlu, fel asbestos a mesothelioma, sy'n angheuol.
Dywedodd Yr Athro Stephen Spiro, Is-gadeirydd Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig, fod llwyddiant y mesur yn ddibynnol ar ba bryd y cafodd asbestos ei ddefnyddio.
"Rydym yn gwybod bod asbestos wedi bod yn beryglus am 20 mlynedd," meddai.
"Er hyn mae gan Mr Antoniw bwynt dilys ond os yw'r achosion cyn hynny, gallai cyflogwyr lwyddo ar sail nad oedden nhw'n ymwybodol o'r peryglon."
Mae'r Athro Spiro yn amcangyfri' bod tua 2,000 o bobl y flwyddyn angen triniaeth o ganlyniad i afiechydon yn ymwneud ag asbestos ar gost o rwng £5,000 a £20,000.
'Straen ariannol'
Ond mae'n dadlau os oedd y wybodaeth am beryglon asbestos yn wybyddus, y dylai cyflogwyr wedi cymryd camau i warchod eu staff.
"Ac os nad ydyn nhw, yna mae 'na ddadl iddyn nhw dalu am driniaeth," meddai.
Tynnodd Mr Antoniw sylw at beryglon pobl yn gweithio mewn gorsafoedd pŵer, gwaith dur a ffatrïoedd yn ogystal â'r risg mewn rhai adeiladau sector cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion.
"Mae costau trin afiechydon sy'n ymwneud ag asbestos yn straen ariannol ar Wasanaeth Iechyd Cymru," meddai Mr Antoniw.
"Dwi'n credu hyn - lle mae cyflogwr wedi bod yn esgeulus a bod iawndal sifil yn ddyledus, fe ddylai'r Gwasanaeth Iechyd gael arian am gost y driniaeth.
"Fyddai ddim pwys lle byddai'r claf wedi cael ei heintio, yr hyn sy'n bwysig yw lle y mae'n cael y driniaeth.
"Os yw'n digwydd yng Nghymru a bod y mesur wedi ei basio, fe fydd yn caniatáu'r llywodraeth i adfer y costau llawn am y driniaeth feddygol."
Straeon perthnasol
- 16 Mai 2012
- 2 Mawrth 2012
- 13 Ionawr 2012
- 24 Tachwedd 2011
- 16 Awst 2011