Swyddi cwmni iogwrt Rachel's yn y fantol

Pot iogwrt Image copyright Other
Image caption Mae'r iogwrt yn cael ei werthu mewn archfarchnadoedd led led Prydain

Mae yna fygythiad i swyddi yn ffatri iogwrt organig Rachel's yng Ngheredigion.

Dywed perchnogion y ffatri, cwmni Lactalis o Ffrainc, eu bod yn ystyried integreiddio'r ffatri yn Aberystwyth gyda rhan arall o'r busnes.

Gwrthododd y cwmni gadarnhau faint o swyddi oedd yn y fantol.

Ond dywedodd llefarydd na fyddai swyddi cynhyrchu yn cael eu heffeithio.

Mae Rachael's yn cyflogi 150.

Cafodd y cwmni ei werthu i Lactalis gan gwmni Dean Foods o'r Unol Daleithiau yn 2010.

Cafodd y cwmni gwreiddiol ei sefydlu yn 1980au gan Rachel Rowlands a'i gŵr Gareth.

Ymgynghori

Fe werthwyd y fenter yn 1999.

Mewn datganiad dywedodd Lactalis nad oedd modd rhoi syniad ynglŷn â'r nifer o swyddi oedd yn y fantol nes eu bod wedi cynnal cyfnod o ymgynghori.

"Fe fydd yn newidiadau yn cryfhau dyfodol Rachel's, ac yn cryfhau partneriaethau busnes gyda ffermwyr lleol," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.