Cynulliad yn ceryddu'r Aelod Cynulliad Keith Davies
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cynulliad wedi ceryddu'r Aelod Cynulliad Llafur, Keith Davies, wedi ei ymddygiad meddw mewn gwesty pum seren.
Derbyniodd ACau'n unfrydol adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ddywedodd ei fod wedi dwyn anfri ar y Cynulliad.
Dywedodd y Blaid Lafur fod yr AC wedi ei geryddu a bod y blaid wedi cael sicrwydd na fyddai'n camymddwyn eto.
Roedd y digwyddiad yng Ngwesty Dewi Sant yng Nghaerdydd ar Ebrill 23.
Mewn datganiad ymddiheurodd Mr Davies, AC Llanelli, i gydaelodau, staff y Cynulliad, staff y gwesty, ei etholwyr "ac yn enwedig fy nheulu oherwydd y cywilydd cyhoeddus ..."
Argymell
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad argymell i'r Cynulliad y dylid ei "geryddu".
Roedd cŵyn yn nodi methiant i ddilyn rhan o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, sy'n cynnwys yr egwyddor y dylai Aelodau "bob amser ymddwyn mewn ffordd fydd yn cynnal a chryfhau ffydd a hyder y cyhoedd yn unplygrwydd y Cynulliad ac osgoi unrhyw ymddygiad fydd yn dwyn anfri ar y Cynulliad neu ar ei aelodau'n gyffredinol."
Wrth argymell ceryddu, roedd y pwyllgor yn gobeithio "anfon neges glir nad yw achosion o'r fath o fethu â chydymffurfio yn dderbyniol".
Straeon perthnasol
- 9 Mai 2012
- 25 Ebrill 2012