Llai o droseddu ar y rheilffyrdd Cymru
- Cyhoeddwyd

Bu cwymp sylweddol yn lefel y troseddu ar y rheilffyrdd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae ffigyrau diweddaraf Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn dangos bod gostyngiad o 25.4% mewn troseddau yn ystod 2011/12 - mae hynny'n cyfateb i 416 yn llai o droseddau yng Nghymru rhwng Ebrill 1, 2011 a Mawrth 31, 2012.
Roedd y gostyngiad yng Nghymru yn well nag ar gyfer gweddill Prydain a welodd ostyngiad o 9.1%.
Dywedodd y Prif Arolygydd Sandra England o Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Bu hon yn flwyddyn lwyddiannus iawn i HTP a'r diwydiant rheilffyrdd.
"Mae'r gostyngiad yn deyrnged i'r bartneriaeth ardderchog sydd gennym gyda'r cwmnïau trenau, sydd yn parhau i fuddsoddi yn niogelwch eu cwsmeriaid a'u staff.
"Mae hefyd yn adlewyrchu gwaith caled staff HTP ar draws Cymru."
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos:
- Troseddau treisgar i lawr 24.7%;
- Troseddau cyffuriau i lawr 27.8%;
- Fandaliaeth i lawr 44.4%;
- Dwyn eiddo teithwyr i lawr 26.5%;
- Dwyn eiddo'r rheilffyrdd i lawr 24.7%.
'Mater pwysig'
Roedd y newyddion wrth fodd prif weithredwr Cymdeithas y Cwmnïau Trenau, Michael Roberts.
"Mae'n newyddion da i deithwyr bod y raddfa droseddu ar y rheilffyrdd yn gostwng," meddai.
"Mae diogelwch teithwyr yn fater pwysig iawn i'r cwmnïau trenau, a dyna pam y maen nhw'n gwario miliynau o bunnoedd yn gosod canolfannau cymorth mewn gorsafoedd, rhoi arian i HTP a gwella sustemau camerâu cylch cyfyng ar drenau.
"Mae'r ffigyrau yma'n dangos bod y gwaith yma yn dwyn ffrwyth, ond bydd y cwmnïau trenau yn parhau i weithio gyda HTP a sefydliadau eraill yn y diwydiant i sicrhau bod ein rheilffyrdd mor ddiogel ag y gallant fod i deithwyr a staff."
Straeon perthnasol
- 17 Chwefror 2011