Morgannwg: Dechrau da i North
- Cyhoeddwyd

Cafodd chwaraewr newydd Morgannwg ddechrau da i'w yrfa gyda'r sir ym Mhencampwriaweth y Siroedd yn Derby.
Marcus North oedd prif sgoriwr Morgannwg yn eu batiad cyntaf wedi iddyn nhw alw'n gywir a dewis batio.
Sgoriodd North 79 allan o gyfanswm Morgannwg, ond tila oedd y gefnogaeth.
Dim ond Mark Wallace a Gareth Rees wnaeth gyfraniadau o bwys ac fe gipiodd Groenewald a Clare dair wiced yr un i'r tîm cartref wrth gyfyngu Morgannwg i 236 yn eu batiad cyntaf.
Doedd dim llwyddiant i fowlwyr Morgannwg yn yr ychydig belawdau a gafwyd cyn i'r chwarae ddod i ben am y diwrnod, gyda Swydd Derby'n cyrraedd 22 heb golli wiced yn eu batiad cyntaf nhw.
Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2 - Sgôr ddiweddaraf
Swydd Derby v. Morgannwg - Diwrnod cyntaf
Morgannwg - (batiad cyntaf) 236
Swydd Derby - (batiad cyntaf) 22heb golli