Tân mawr ar fynydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i dân eithin yn Llwynypia yn y Rhondda nos Fercher.
Daeth yr alwad ychydig wedi 9:00pm.
Roedd chwe hectar o dir ar dân yn agos i fast teledu mawr.
Aeth tair injan dân i'r safle - dau o Donypandy ac un o Dreorci - ynghyd â cherbyd arbennig Argocat sy'n gallu teithio ar dir mynyddig.