Mwy o lywodraethwyr i Ysgol Goronwy Owen
- Cyhoeddwyd

Gall BBC Cymru ddatgelu bod chwech o aelodau ychwanegol wedi ymuno â bwrdd llywodraethol ysgol ar Ynys Môn sy'n mynd trwy gyfnod cythryblus.
Mae pennaeth Ysgol Goronwy Owen ym Menllech wedi bod yn absennol o'r ysgol ar gyflog llawn ers bron i flwyddyn wrth i ymchwiliad o dan y drefn amddiffyn cynnal plant gael ei gynnal.
Cafodd yr ymchwiliad ei lansio ar ôl cwyn yn erbyn y brifathrawes Ann Hughes.
Gwasanaeth ymchwilio annibynnol wedi ei benodi gan Lywodraeth Cymru fu'n gyfrifol am gynnal yr ymchwiliad.
Gall y BBC ddatgelu bod yr adroddiad wnaed wedi'r ymchwiliad wedi ei gwblhau er o leia' mis Mawrth ac wedi bod yn nwylo panel disgyblu llywodraethwyr Ysgol Goronwy Owen.
Dydi'r penderfyniad hwnnw ddim wedi ei gyhoeddi eto.
Cafodd y chwe aelod ychwanegol eu penodi i'r bwrdd llywodraethol gan Adran Addysg Cyngor Sir Ynys Môn ac yn ychwanegol i'r 12 llywodraethwr ar y bwrdd presennol.
Salwch
Dywedodd y cyngor sir bod hyn "yn unol â rheoliadau llywodraethu ysgolion".
Mae BBC Cymru yn deall bod y chwe aelod ychwanegol wedi ystyried yr adroddiad a'u bod nhw wedi penderfynu ar y ffordd ymlaen.
Daeth y problemau i'r amlwg ar ôl i 5 o'r 6 athro llawn amser adael eu swydd ar gyfnod o salwch.
Daeth yn amlwg fod yna densiynau rhyngddyn nhw â'r brifathrawes a'u bod nhw yn wreiddiol wedi cwyno amdani yn ôl ym mis Awst 2010.
Ym mis Gorffennaf 2011 cafodd Mrs Hughes ei gwahardd o'i gwaith ar gyflog llawn.
Ym mis Medi fe waeth y pum athro ddychwelyd i'w gwaith.
Mae Mrs Hughes yn dal wedi ei gwahardd o'i gwaith ar gyflog llawn gan fod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Mae'r cyfnod wedi bod yn un ansicr a chostus iawn yn ariannol gan fod prifathrawon dros dro wedi eu penodi ar wahanol adegau.
Cost ariannol
"Dwi wedi cael gwybod fod cost y penodiadau ychwanegol yma - cost y prifathrawon dros dro - rhwng mis Medi 2011 a mis Mawrth 2012 dros £53,000," meddai gohebydd BBC Cymru, Aled Hughes.
"Mae'r gost yma ar ben y £30,000 y bu'n rhaid ei dalu i athrawon dros dro tra'r oedd y pum athro adra'n sâl flwyddyn yn ôl.
"Felly mae'r gost ariannol i bobl Ynys Môn yn un cymharol sylweddol wrth i'r achos yma rygnu ymlaen."
Dywedodd bod yr ansicrwydd wedi arwain rhieni i symud eu plant o'r ysgol a bod yr ysgol a'r gymuned hefyd wedi eu rhannu wrth i rai fod yn gefnogol i'r pennaeth ac eraill yn gefnogol o safbwynt y pum athro.
"Dwi wedi siarad efo Ann Hughes ac mae hi'n dweud fod y sefyllfa a'r diffyg penderfyniad yn cael effaith ar ei hiechyd hi," ychwanegodd Aled Hughes.
"Y gobaith yw y bydd yr adroddiad yn dod ag atebion yn fuan i'r rhai sy'n ymwneud â'r ysgol."
Straeon perthnasol
- 26 Medi 2011
- 23 Awst 2011
- 8 Gorffennaf 2011
- 10 Mehefin 2011