Aled Jones a Gethin Jones yn ymuno gyda Daybreak ITV
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y cyflwynydd teledu Gethin Jones yn ymuno gyda rhaglen frecwast ITV1 Daybreak.
Daeth y cyhoeddiad wythnos ar ôl i gyflwynwyr newydd y rhaglen gael eu cyhoeddi, sy'n cynnwys Jones arall, y cyflwynydd Aled Jones.
Fe fydd Lorraine Kelly yn cyd-gyflwyno gydag Aled Jones.
Cyhoeddodd y cwmni cynhyrchu mai Gethin Jones, 33 oed o Gaerdydd, fydd gohebydd nodwedd y rhaglen ac fe fydd yn cychwyn ar y gwaith ddydd Llun.
Bydd Aled Jones, 41 oed, a Lorraine Kelly yn dechrau ar eu gwaith "yn ddiweddarach yn y flwyddyn".
Maen nhw'n olynu Adrian Chiles a Christine Bleakley a oedd y cyflwynwyr cyntaf pan gafodd y rhaglen ei lansio ym mis Medi 2010.
Oherwydd ffigyrau gwylio isel fe adawodd y ddau ym mis Rhagfyr gyda Dan Lobb a Kate Garraway yn cyflwyno dros dro.
Dywedodd Gethin Jones, cyn-gyflwynydd Blue Peter, ei fod "yn edrych ymlaen" at yr her ac at fod yn cyd-weithio gyda'r Cymro Aled Jones.
Mae Aled Jones, sydd wedi bod yn cyflwyno Songs of Praise a The Early Breakfast Show ar BBC Radio 2, wedi dweud ei fod yn "edrych ymlaen at rannu'r soffa bob bore gyda rhywun mor broffesiynol â Lorraine Kelly.
"Rydym wedi adnabod ein gilydd ers amser hir iawn ac wedi cael lot o hwyl gyda'n gilydd.
"Rydym yn gobeithio y bydd y gynulleidfa yn mwynhau bod yn rhan o'n teulu amser brecwast."