Y môr a'r mynydd ar Goron yr Urdd 2012
- Cyhoeddwyd

Môr a Mynydd sy'n ysbrydoliaeth i Goron Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.
John Price o Fachynlleth, sydd wedi ei llunio, ei Goron Eisteddfod yr Urdd gyntaf.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n cyflwyno'r Goron eleni ac mae tirwedd Eryri a'r arfordir yn amlwg iawn yn y Goron.
Caiff y Goron ei rhoi am greu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema 'Egin' a'r beirniaid yw Catrin Dafydd a Meg Elis.
Hobi yw creu coronau i Mr Price, sy'n wreiddiol o Ynys Môn ond sy'n byw ers blynyddoedd ym Machynlleth gyda'i wraig ac sy'n dad i bedwar o blant.
"Dwi'n cael pleser mawr yn y gweithdy.
"Mae hi'n wefr cael cynllunio Coron i brifwyl ieuenctid yr Urdd."
Disgrifiodd John y Goron fel Coron draddodiadol o fand arian, gyda chwpled arbennig wedi ei ysgythru i'r band o dan driban yr Urdd.
Fe wnaeth noddwyr y Goron, y Parc Cenedlaethol, drefnu cystadleuaeth i annog beirdd ifanc i osod eu marc ar y goron eleni.
Gruffydd Antur, 20 oed o Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth ddaeth i'r brig.
Mae'r cwpled yn cael lle amlwg yng nghanol y Goron: 'Pery awen y llenor; Pan na fydd mynydd na môr.'
'O'r fesen i'r dderwen'
Bob ochr i fathodyn yr Urdd, mae mynyddoedd Eryri, y gair "Eryri" a "2012" wedi'u hysgythru arnynt i nodi lleoliad yr Eisteddfod eleni ac o dan y mynyddoedd mae llynnoedd Eryri.
Ond mae'r siapiau hefyd yn cynrychioli hwylio ar donnau'r môr a'r llamhidyddion yn nofio yn y dŵr.
"Bob ochr i'r cwpled mae mesen, deilen y dderwen a dau flodyn. 'O'r fesen fach y tyf y dderwen fawr'," eglurodd Mr Price.
"Beth sydd o flaen yr awdur ifanc buddugol, ys gwn i be' fydd ganddo fo neu hi i'w gynnig i ni i'r dyfodol?
"Mae lili'r wyddfa, blodyn unigryw Eryri a chennin Pedr i gynrychioli delwedd y Parc Cenedlaethol fel noddwyr hefyd i'w gweld ar y Goron.
"I orffen y cwbl, mae'r cap o ddefnydd porffor yn cyfleu lliwiau godidog chwareli llechi'r ardal a grug y mynydd."
Dywedodd Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ei bod yn anrhydedd cael noddi'r Goron.
"Mae mynyddoedd a môr yn rhan annatod o nodweddion Eryri a dyma yw thema dyluniad y Goron, sydd wedi cael ei chreu mor gelfydd trwy grefft a goruchwyliaeth John Price.
"Rydym hefyd yn hynod o falch o fod yn rhan o'r bartneriaeth gyda'r Urdd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i lansio Ysgoloriaeth Geraint George, er cof am un a weithiodd yn ddiflino i annog cyfleoedd a mwynhad i Gymry Cymraeg ifanc ym maes yr amgylchedd."