Ymgyrch atgofion o flasau'r gorffennol yn y Brifwyl
- Cyhoeddwyd

Mae Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn apelio ar bobl i anfon hen ryseitiau teuluol atyn nhw fel rhan o ymgyrch arbennig - Blas y Brifwyl.
Bwriad yr ymgyrch, a fydd yn cael ei chynnal yn ystod mis Mai a mis Mehefin, yw creu casgliad yn ymwneud â bwyd, rhywbeth sydd mor ganolog i fywyd dyddiol teuluoedd Cymreig.
Y gobaith yw derbyn atgofion am arferion bwyd a hen ryseitiau sydd wedi'u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth gan ddatblygu a newid wrth i bawb ychwanegu'u stamp eu hunain.
Daw'r ymgyrch i uchafbwynt blasus yn ystod yr Eisteddfod eleni, pan fydd cegin Cymru y Gwir Flas ar y Maes yn paratoi rhai o'r rysetiau yn ystod yr wythnos.
Yn rhan o'r ymgyrch mae Casgliad y Werin - yr archif genedlaethol ar-lein - sy'n gweithio gyda'r Eisteddfod unwaith eto eleni.
'Bwydydd cynhenid'
Dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, ar ran Cymru y Gwir Flas, bod 'na "gyfoeth o gynhyrchwyr bwyd a chynhwysion arbennig yma yng Nghymru, a'n bwriad ni yw dangos sut mae pobl wedi bod yn defnyddio'r rhain dros y blynyddoedd".
"Bydd hefyd yn ddiddorol gweld sut mae ryseitiau ar gyfer bwydydd cynhenid Cymreig yn newid o ardal i ardal ac o genhedlaeth i genhedlaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at weld enghreifftiau o hyn.
"Ar hyn o bryd rydym yn derbyn pleidleisiau yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas, ac rwy'n mawr obeithio y bydd meddwl am hoff le bwyd neu siop yn symbylu pobl i feddwl am bwysigrwydd bwyd yn eu bywydau - ryseitiau, paratoi bwyd, dathliadau a'r cynnyrch yna sydd mor arbennig yng Nghymru - ac yna'n eu hanfon atom.
"Byddwn yn dewis y rhai mwyaf diddorol ac yn coginio rhywbeth gwahanol bob dydd ar y Maes yn Llandŵ ym mis Awst."
'Gwledda a chymdeithasu'
Dywedodd Rheinallt Ffoster-Jones o Casgliad y Werin, bod traddodiadau o baratoi a mwynhau bwyd yn amrywio o fan i fan.
"Rydym yn gobeithio y bydd modd casglu'r rhain at ei gilydd gyda'r ymgyrch hon; o falu gwenith i wneud blawd, i ladd mochyn yn yr ardd gefn, casglu cocos ym Mhenclawdd a'r gwahaniaeth rhwng cawl yn y de a lobsgóws yn y gogledd mae'r hanes ynghlwm â bwyd yn ddifyr iawn.
"Mae'r ffaith y byddwn yn cael cyfle i flasu rhai o'r ryseitiau ar faes yr Eisteddfod eleni yn rhan bwysig o'r ymgyrch ac yn clymu gyda darganfyddiad gan un o brif bartneriaid Casgliad y Werin, Amgueddfa Cymru.
"Yn yr 20fed Ganrif, cafwyd hyd i olion o'r Oes Efydd ar y Maes, ac mae'n ymddangos bod pobl wedi bod yn gwledda, bwyta a chymdeithasu ar y Maes hwn 3,500 o flynyddoedd yn ôl.
"Rhywbeth i'w gofio wrth i ni fwynhau'r danteithion eleni, efallai."
Gellir llwytho'ch rysáit ar wefan Casgliad y Werin, neu gallwch fynd drwy wefan yr Eisteddfod, neu gallwch anfon eich rysáit i Swyddfa'r Eisteddfod, 40 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU.
Ewch i wefan Cymru y Gwir Flas er mwyn pleidleisio dros eich hoff fwyty, caffi, parlwr te, siop fferm, deli, siop gig neu siop bysgod. Y dyddiad cau ar gyfer bwrw pleidlais yw Mai 28.
Bydd pob un sy'n mynd ati i enwebu yn cael ei gynnwys yn awtomatig mewn cystadleuaeth i ennill profiad bwyd seren Michelin neu hamper bwyd y Gwir Flas.
Straeon perthnasol
- 31 Gorffennaf 2011