Abertawe yn gwadu cais am Chris Gunter

  • Cyhoeddwyd
Chris Gunter (dde) a Joe AllenFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Elyrch yn gwadu gwneud cais am Chris Gunter (dde)

Mae Abertawe wedi gwadu eu bod wedi gwneud cais i arwyddo'r chwaraewr rhyngwladol Chris Gunter o Nottingham Forest.

Dywed Forest nad ydyn nhw'n ymwybodol fod unrhyw glwb wedi cynnig am yr amddiffynnwr wnaeth chwarae 50 o gemau y tymor diwethaf.

Fe wnaeth y chwaraewr 22 oed ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn 17 oed.

Mae adroddiadau hefyd yn cysylltu'r Elyrch gyda chais i arwyddo Marvin Emnes o Middlesbrough.

Bu Emnes ar fenthyg i Abertawe yn nhymor 2010.

Fe wnaeth Emnes 23 oed, sgorio 18 o goliau i Middlesbrough yn y tymor diwethaf wrth iddyn nhw geisio yn aflwyddiannus i gyrraedd y gemau ail gyfle.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol