Pryder am swyddi iogwrt
- Cyhoeddwyd

Mae AC wedi codi lleisio pryderon am ddyfodol safle cynhyrchu iogwrt yn Aberystwyth ar ôl i'r perchnogion ddweud fod dyfodol rhai swyddi yn y fantol.
Dywedodd Elin Jones AC ei bod yn gobeithio nad oedd cyhoeddiad dydd Mercher yn awgrym fod cwmni Lactalis yn bwriadu cau ffatri Rachel's Dairy.
Mae'r cwmni o Ffrainc wedi dweud y bydd y safle yn Aberystwyth yn parhau i gynhyrchu iogwrt..
Gwnaeth Ms Jones fynegi ei phryder ar lawr y Senedd ym Mae Caerdydd.
Cafodd y cwmni gwreiddiol ei sefydlu yn 1980au gan Rachel Rowlands a'i gŵr Gareth.
Mae Rachel's yn cyflogi 150.
Cafodd y cwmni ei werthu i Lactalis gan gwmni Dean Foods o'r Unol Daleithiau yn 2010.
Cyflogwr pwysig
Dywed perchnogion y ffatri, cwmni Lactalis o Ffrainc, eu bod yn ystyried integreiddio'r ffatri yn Aberystwyth gyda rhan arall o'r busnes.
Dydyn nhw ddim wedi dweud faint o swyddi sydd yn y fantol.
Dywedodd Ms Jones, AC Plaid Cymru, fod y cwmni yn gyflogwr pwysig yn y sector breifat yn Aberystwyth.
"Rwy'n gobeithio nad yw torri nôl ar swyddi yn awgrym fod y cwmni yn bwriadu symud o Aberystwyth," meddai Ms Jones.
"Rwyf wedi codi'r mater gyda John Griffiths, y gweinidog gyda chyfrifoldeb am ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd, a gofyn iddo a fydd e'n gwneud pob ymdrech i gefnogi'r cwmni er mwyn sicrhau presenoldeb y ffatri yn Aberystwyth, ac i gefnogi unrhyw weithwyr sy'n wynebu colli eu swyddi."
Mewn datganiad dywedodd Lactalis nad oedd modd rhoi syniad ynglŷn â'r nifer o swyddi oedd yn y fantol nes eu bod wedi cynnal cyfnod o ymgynghori.
"Fe fydd yn newidiadau yn cryfhau dyfodol Rachel's, ac yn cryfhau partneriaethau busnes gyda ffermwyr lleol," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2010
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2010