Dim achos yn erbyn Peter Hain
- Cyhoeddwyd

Fydd achos o ddirmyg llys yn erbyn cyn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Peter Hain ddim yn mynd yn ei flaen.
Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, John Larkin, oedd wedi dwyn yr achos oherwydd sylwadau mewn llyfr hunangofiant Mr Hain.
Ond penderfynodd yr Uchel Lys yn Belffast na fydd yna achos.
Roedd Mr Hain wedi ysgrifennydd at y Twrnai Cyffredinol yn egluro sylwadau yr oedd wedi eu gwneud am farnwr uchel lys yn ei lyfr Outside In.
Dywedodd nad oedd wedi bwriadu cwestiynu cymhelliad Yr Arglwydd Ustus Paul Girvan wrth gynnal adolygiad barnwrol.
Doedd o ddim chwaith, meddai Mr Hain yn ei lythyr, yn cwestiynu gallu yr Arglwydd Ustus fel barnwr.
Yn wyneb hynny, meddai Mr Larkin doedd dim angen i'r achos barhau.
Doedd o nawr ddim yn credu fod yna unrhyw risg i hyder cyhoeddus yn y system o weinyddu cyfiawnder.
Straeon perthnasol
- 27 Mawrth 2012
- 24 Ebrill 2012