Cytundeb les ffafriol i gynghorydd?

Cyngor Caerdydd Image copyright Cyngor Caerdydd
Image caption Pencadlys Cyngor Caerdydd

Mae cwestiynau yn cael eu holi a wnaeth cynghorydd Llafur o Gaerdydd sicrhau les ffafriol oddi wrth y cyngor ar gyfer siop gafodd ei is-osod yn syth.

Arwyddwyd y les yn 2001. Roedd y cynghorydd Michael Michael yn aelod o'r cabinet .

Roedd y cytundeb ar gyfer uned fasnachol yn y Tyllgoed, y ward roedd Mr Michael yn ei chynrychioli.

Yn ddiweddarach fe'i dyrchafwyd yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd cyn colli ei sedd yn 2008.

Yn etholiadau lleol ddechrau Mai fe gafodd ei ethol i gynrychioli ward Trowbridge.

Mae'r rhaglen Dragons Eye wedi gweld tystiolaeth fod y grŵp Llafur, sy'n rheoli Caerdydd, yn bwriadu enwebu'r cynghorydd Michael i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor cynllunio.

Rhent blynyddol

Yn 2001 fe dalodd £10,000 i'r cyngor ar gyfer les ar yr eiddo am 99 o flynyddoedd, roedd yna rent blynyddol symbolaidd o £1.

Fe aeth y cyngor ymlaen gyda'r cytundeb er i uwch swyddog godi amheuon yn sgil awgrym mai bwriad y cynghorydd Michael oedd is-osod ar unwaith.

Fe ysgrifennodd uwch swyddog ar y pryd: "Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn dderbyniol o gwbl."

Dywedodd pe bai'r cynghorydd yn gallu is-osod y siop yna doedd y cyngor ddim yn cael y pris cywir am yr eiddo drwy werthu'r les i Mr Michael.

Yn ddiweddarach fe wnaeth y cynghorydd Michael is-osod y siop am un ffi o £10,000 a rhent blynyddol o £3,600.

Dywed y cyngor fod ganddynt 35 eiddo masnachol ar les hir dymor.

Dim ond dau o'r rhain sydd wedi eu caniatáu ers 1996; y ddau i'r cynghorydd Michael Michael.

Un yw'r eiddo dan sylw, a'r llall yw eiddo drws nesa lle mae ef yn rhedeg busnes trin gwallt.

Mae nifer o fusnesau lleol yn anhapus nad ydynt wedi cael cynnig cytundebau tebyg.

Daeth dau ymchwiliad mewnol gan y cyngor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamwedd wedi digwydd a bod y drefn gyfreithiol gywir wedi ei dilyn.

Fe wnaeth yr ymchwiliadau dderbyn fod yna fylchau o ran y dystiolaeth a hynny oherwydd treigl amser.

Ymchwiliad

Yn dilyn pwysau gan arweinydd Plaid Cymru ar y Cyngor, Neil McAvoy, fe wnaeth yr awdurdod gyfeirio'r mater i Swyddfa Archwilio Cymru.

Penderfynodd y Swyddfa Archwilio yn erbyn ymchwiliad pellach i'r mater oherwydd y diffyg gwybodaeth oedd ar gael gan y Cyngor, ac oherwydd bod gymaint o amser wedi mynd heibio.

Ond ychwanegodd llefarydd ar ran y Swyddfa: "Pe bai yna dystiolaeth newydd yn dod i'r fei yna byddai 'r swyddfa yn ystyried a oedd angen cymryd unrhyw gamau.

"Pe bai yna dystiolaeth o ymddygiad troseddol, yna byddai hynny'n fater i'r heddlu yn hytrach na'r Archwilydd."

Dywedodd y cyngor: "Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnal ymchwiliad ac wedi anfon y wybodaeth i Swyddfa Archwilio Cymru.

"Mae'r corff annibynnol hwn wedi dweud fod gymaint o amser wedi mynd heibio ers i'r cwestiwn gwreiddiol gael ei holi mai bach iawn fyddai unrhyw fudd pe bai nhw'n ymchwilio ymhellach. Rydym ni yn derbyn eu penderfyniad. "

Bydd rhaglen Dragons's Eye yn cael ei darlledu ar BBC2 Cymru am 7pm a BBC1Cymru am 11.35.