50 o deiars wedi'u dympio yn Llansamlet, Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn ymchwilio ar ôl i dros 50 o deiars gael eu dympio'n anghyfreithlon yn afon Nant y Fendrod yn Llansamlet, Abertawe.

Cafodd y teiars eu darganfod gan swyddogion wrth gynnal arolwg o'r ardal.

Dywedodd llefarydd fod y teiars yn peryglu bywyd gwyllt ac amgylchedd yr ardal.

Mae'r teiars wedi eu symud cyn cael eu hailgylchu.

Dywedodd Owen Caughlin o'r asiantaeth: "Mae dympio gwastraff fel hyn mewn afonydd yn gallu cael effaith wirioneddol ar afon a'i bywyd gwyllt.

"Mae'n ddi-hid a does dim esgus amdano.

"Os oes gan unrhyw un wybodaeth am hyn neu'n poeni am wastraff anghyfreithlon ar safle arall, dylai ffonio 0800 80 70 60."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol