Dyfed Edwards wedi ei ail-ethol yn Arweinydd Cyngor Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
y Cynghorydd Dyfed Edwards
Disgrifiad o’r llun,
Y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Mae'n fraint gen i dderbyn y sialens"

Mae Dyfed Edwards wedi ei ail-ethol yn Arweinydd Cyngor Gwynedd.

Yn ogystal etholwyd y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, a'r Cynghorydd Huw Edwards yn is-Gadeirydd.

Fe etholwyd y Cynghorydd Dyfed Edwards yn Arweinydd y Cyngor yn gyntaf yn 2008. Mae hefyd yn Arweinydd Grwp Plaid Cymru ar y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Mae'n fraint gen i dderbyn y sialens o arwain Cyngor Gwynedd am y bum mlynedd nesaf ac hefyd hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i drigolion Penygroes am yr anrhydedd o'u cynrychioli ar y Cyngor newydd.

"Rwy'n edrych ymlaen i weithio ochr yn ochr gyda'm cyd-aelodau a swyddogion y Cyngor er mwyn cyrraedd at y nod o greu Gwynedd well lle bydd ein cymunedau a'r iaith Gymraeg yn ffynnu.

"Mae'r cyd-destun heriol yn golygu bod trigolion y sir yn edrych tuag atom ni ar Gyngor Gwynedd i greu agenda amgen - agenda o gyfiawnder cymdeithasol, darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf ac agenda o newid er gwell.

"Fel un o dîm y byddaf yn arwain y gwaith hwn ac mae bawb gyfraniad i'w wneud - yn aelodau o bob plaid, swyddogion a gweithlu'r Cyngor."

Yn Gynghorydd Gwynedd ers 2004, mae'r Cynghorydd Selwyn Griffiths hefyd yn aelod o Gyngor Tref Porthmadog ac ar hyn o bryd yn aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

Etholwyd y Cynghorydd Huw Edwards yn Is-Gadeirydd y Cyngor. Mae'n aelod o Gyngor Gwynedd ers 2005.

Plaid Cymru fydd yn rheoli Cyngor Gwynedd mewn cytundeb gyda Llafur.

Ar ôl etholiadau Mai 3 roedd gan Blaid Cymru 37 sedd a'r pleidiau a grwpiau eraill 37, gan gynnwys pedair yn nwylo Llafur.

Bydd isetholiad ar gyfer y 75ed sedd yn ward Bryncrug a Llanfihangel, Meirionnydd, ar Fehefin 14.