Lerpwl yn 'rhy gynnar' i Rodgers
- Cyhoeddwyd

Mae un o fawrion pêl-droed Ewrop, Marcel Desailly, yn credu na ddylai Brendan Rodgers adael Abertawe i fod yn rheolwr ar Lerpwl.
Rodgers yw un o'r ffefrynnau i olynu Kenny Dalglish wedi i Lerpwl diswyddo'r Albanwr ddydd Mercher.
Ond mae Desailly, a enillodd Gwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop gyda Ffrainc, yn credu y byddai symud i glwb mawr yn rhy gynnar yng ngyrfa Rodgers.
"Rwy'n credu ei bod yn rhy gynnar iddo fynd i Lerpwl nawr," meddai Desailly.
"Fedrwch chi ddim anghofio am y cyfraniad enfawr a'r ymroddiad enfawr y mae wedi rhoi i Abertawe."
Canu clodydd
Ond roedd y Ffrancwr hefyd yn credu y byddai Rodgers yn derbyn y swydd pe bai'n cael ei chynnig, gan ychwanegu:
"Rhaid i chi groesi'ch bysedd, ond yn y bôn os fydd Lerpwl yn gofyn iddo, fe fydd yn mynd. Fedrwch chi ddim ei ddal yn ôl."
Rodgers, rheolwr Wigan Roberto Martinez (oedd hefyd yn rheolwr Abertawe am gyfnod) a chyn rheolwr Chelsea Andre Villas-Boas yw'r enwau mwyaf blaenllaw sy'n cael eu cysylltu gyda'r swydd yn Anfield.
Gorffennodd Abertawe yn 11eg yn yr Uwchgynghrair gan ennill clod gan nifer o sylwebwyr a chefnogwyr yn eu tymor cyntaf ar y lefel uchaf am eu dull o chwarae.
Roedd Desailly, a fu'n gapten ar Chelsea yn ei gyfnod o chwe blynedd yn Stamford Bridge, yn annog Rodgers i orffen yr hyn mae wedi ei ddechrau ar Stadiwm Liberty.
Dywedodd: "Mae'r potensial yno yn Abertawe, ac fe fyddai'n bechod i adael eich babi ar y stryd.
"Fe ddylai drosglwyddo'r awenau i rywun fydd yn gofalu amdano cyn symud ymlaen.
"Dyw gweld ei enw yn y cyswllt yma ddim yn syndod. Rhaid ei fod yn falch, ac mae'n siŵr bod y clwb yn falch ohono ac yn gwneud eu gorau i'w gadw.
"Os yw'n edrych ar bethau yn y tymor hir, fe ddylai aros yno oherwydd y gwaith ardderchog y mae wedi gwneud yno eisoes."