Sawna diffygiol yn achosi tân
- Cyhoeddwyd

Llun gan un o'r trigolion lleol
Credir mai sawna diffygiol achosodd dân mewn tŷ haf yn Llanberis yn oriau mân fore Gwener.
Cafodd diffoddwyr eu galw i'r eiddo pedwar llawr ar Stryd Fawr Llanberis am 5:02am.
Llwyddwyd i wagio'r adeilad, gyda phawb oedd ynddo'n dianc heb anaf.
Bu'n rhaid i ddiffoddwyr daclo'r tân yn islawr yr adeilad yn gwisgo offer anadlu arbennig.
Roedd tair injan dân wedi gorfod mynd i'r safle.