Hain: 'Peidiwch ofni pleidlais Ewrop'
- Cyhoeddwyd

Ni ddylai Llafur fod ofn refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, yn ôl Peter Hain.
Roedd AS Castell-nedd a chyn lefarydd Llafur ar Gymru yn siarad ar raglen Question Time y BBC o Gaerdydd nos Iau.
Ond ychwanegodd Mr Hain nad nawr oedd yr amser i gynnal pleidlais o'r fath oherwydd argyfwng ardal yr Euro.
Dywedodd Mr Hain ei fod am i'r DU aros o fewn yr undeb am ei fod wedi dod â heddwch a sefydlogrwydd.
Ar y rhaglen hefyd roedd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, a'r Ceidwadwr Maria Miller.
'Pen eu tennyn'
Ymosododd Ms Wood a Mr Hain bolisïau llymder y llywodraeth glymblaid yn San Steffan.
Ond dywedodd Ms Miller bod y glymblaid wedi adfer hygrededd Prydain yn y marchnadoedd arian drwy daclo'r ddyled.
Roedd yn cytuno y dylid gadael cwestiwn aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd am y tro.
Dywedodd Peter Hain: "Rwy'n credu y bydd pobl Prydain am benderfynu os ydynt am aros o fewn Ewrop ai peidio.
"Dydw i ddim yn credu y dylwn ni fod ofn rhoi pleidlais i bobl."
Mynnodd mai'r dewis oedd os oedd pobl am weld mesurau llymder yn cael eu gorfodi ar bobl Prydain, ond ychwanegodd na ddylid cynnal pleidlais yn y dyfodol rhagweladwy.
Dywedodd Ms Wood: "Mae'n ymddangos yn glir i mi bod pobl ar draws Ewrop bellach yn pleidleisio yn erbyn mesurau llymder.
"Maen nhw wedi cyrraedd pen eu tennyn. Allan nhw ddim cymryd mwy o hyn."
Dywedodd bod ethol Francois Hollande fel arlywydd Ffrainc yn dangos bod pobl am wneud pethau mewn ffordd wahanol.
Gofynnwyd iddi a oedd hi o blaid graddfa dreth incwm o 75% i'r rhai sy'n ennill cyflogau uchel iawn fel sy'n digwydd yn Ffrainc, a dywedodd:
"Rwy'n credu y dylai pobl gyfoethog dalu llawer mwy i'r gronfa ganolog nag y maen nhw'n gwneud ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd14 Mai 2012