Twrci'n crwydro'r strydoedd
- Cyhoeddwyd

Roedd y twrci'n crwydro strydoedd Cilâ yn Abertawe
Mae'r gymdeithas gwarchod anifeiliaid, yr RSPCA, yn apelio am wybodaeth wedi i dwrci gael ei gweld yn crwydro strydoedd Abertawe.
Cafodd y gymdeithas alwad gan yrrwr a welodd y twrci benywaidd brown a du ar Fai 15 wrth yrru ar stryd ym Mhentre Banadl, Cilâ.
Gwelodd nifer o drigolion eraill yr aderyn, ond llwyddodd y gyrrwr i gornelu'r twrci yn ei garej cyn ffonio'r RSPCA.
Dywedodd un o swyddogion yr RSPCA, Paula Milton: "Anaml iawn y byddwn yn derbyn galwad i achub twrci, ond mae'n hanfodol bod perchennog yr aderyn yma'n cysylltu gyda ni cyn gynted â phosib."
Mae'r twrci bellach yng ngofal yr RSPCA.
Os oes gan rywun wybodaeth am y digwyddiad, maen nhw'n cael eu hannog i gysylltu â llinell wybodaeth a chreulondeb yr RSPCA ar 0300 1234 999.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol