Delweddau anweddus: Dim carchar
- Cyhoeddwyd

Roedd pensiynwr oedd yn credu nad oedd yn gwneud drwg i neb drwy edrych ar ddelweddau anweddus o blant yn anghywir, yn ôl barnwr.
Ni chafodd David Henry Bird, 70 oed o Langollen, ddedfryd o garchar ond cafodd orchymyn cymunedol am dair blynedd.
Bydd rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am bum mlynedd.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrtho yn Llys y Goron Yr Wyddgrug: "Doeddech chi'n gwneud dim drwg i neb? Wel mi oeddech chi.
"Rhaid i chi ddeall bod y delweddau'n cynnwys rhai o blant mor ifanc â dwy oed a thrwy eu gwylio rydych yn cyfrannu at y farchnad ar gyfer deunydd o'r fath.
"Rydym yn erlyn am fod rhaid gwarchod plant."
Yn euog
Clywodd y llys fod yr heddlu wedi dod o hyd i 218 o ddelweddau anweddus o blant wrth archwilio cyfrifiadur Bird yn ei gartref yn Nhŷ Ucha, Sun Bank, Llangollen.
Roedd wedi pledio'n euog i 15 cyhuddiad - 14 o greu delweddau unigol ac un o fod â 204 o ddelweddau yn ei feddiant - mewn gwrandawiad blaenorol.
Dywedodd yr erlynydd Sarah Bradrawy fod Bird wedi dweud wrth yr heddlu: "Doeddwn i'n gwneud dim drwg i neb. Dim ond edrych arnyn nhw oeddwn i."
Roedd y delweddau'n ffiaidd, meddai, a honni mai dim ond oherwydd chwilfrydedd y bu'n edrych ar wefan o'r enw "Teen models".
Honnodd nad oedd yn ymwybodol ei fod wedi torri'r gyfraith.
'Cymeriad da'
Dywedodd y barnwr: "Rwy'n derbyn eich bod yn edifar yn ddiffuant a'ch bod yn ddyn o gymeriad da fel sy'n amlwg o sawl geirda a dderbyniais.
"Rydych yn ddyn elusengar, yn dad a gŵr ymroddgar ac roedd hyn yn gwbl groes i'ch cymeriad."
Yn ogystal â bod yn destun gorchymyn cymunedol am dair blynedd gyda thair blynedd arall o oruchwyliaeth bydd rhaid i Bird fynd i 35 o sesiynau o raglen drin troseddwyr rhyw.
Ni fydd yn cael gweithio gyda phlant a phobl ifanc a bydd rhaid iddo gyfrannu £750 at gostau'r erlyniad.
Cytunodd y barnwr gyda chais yr amddiffyn i beidio â chyhoeddi Gorchymyn Atal Troseddau Rhyw yn achos Bird.