Heddlu'r Gogledd yn holi Sky News
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn holi staff sianel deledu Sky News am ddarlledu enw merch a gafodd ei threisio gan y pêl-droediwr Ched Evans.
Cafodd Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio'r ferch 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl y llynedd.
Bydd yr ymchwiliad i'r achos yn parhau.
Mae 16 o ddynion a menywod ar draws Gogledd Cymru a De Swydd Efrog wedi cael eu harestio a'u rhyddhau fel rhan o'r ymchwiliad wedi i nifer o bobl enwi'r fenyw .
Cadarnhaodd y Ditectif Brif Arolygydd Steve Williams o Heddlu'r Gogledd fod Sky News wedi cydweithredu'n llawn gyda'r ymchwiliad.
Pwysleisiodd yr heddlu fod y gyfraith yn golygu bod y rhai sy'n diodde' treisio neu droseddau rhyw difrifol eraill yn anhysbys am oes.
Os yw unrhyw un yn cyhoeddi enw dioddefwr, fe fydd y mater yn cael ei ymchwilio'n drylwyr cyn camau cyfreithiol.
Straeon perthnasol
- 16 Mai 2012
- 9 Mai 2012
- 2 Mai 2012
- 1 Mai 2012
- 20 Ebrill 2012