Rodgers yn 'gwrthod trafod â Lerpwl'

Brendan Rogers, Kenny Dalglish Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Enillodd Abertawe gêm ola'r tymor yn erbyn Lerpwl

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau bod eu rheolwr, Brendan Rodgers, wedi gwrthod y cyfle i drafod swydd rheolwr Lerpwl.

Rodgers oedd un o'r ffefrynnau i olynu Kenny Dalglish wedi i Lerpwl ddiswyddo'r Albanwr ddydd Mercher.

Mae Fenway Sports Group, perchnogion Lerpwl, wedi cael caniatâd i drafod â rheolwr Wigan Roberto Martinez oedd hefyd yn rheolwr Abertawe am gyfnod.

Mae cyn reolwr Chelsea Andre Villas-Boas hefyd yn cael ei gysylltu gyda'r swydd yn Anfield.

'Cryfhau'

Mewn datganiad fore Gwener, dywedodd y clwb: "Gall Abertawe gadarnhau bod Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi gwneud cais swyddogol i'r cadeirydd Huw Jenkins i gael siarad gyda'r rheolwr Brendan Rodgers.

"Mae'r clwb o fedru dweud bod Brendan wedi gwrthod y cyfle i siarad gyda chlwb Anfield am y swydd.

"Mae rheolwr Abertawe ar hyn o bryd yn gweithio'n galed i gryfhau'r garfan ar gyfer y tymor newydd yn yr Uwchgynghrair."

Arweiniodd Rodgers yr Elyrch at ddyrchafiad o'r Bencampwriaeth yn 2011 cyn cael tymor llwyddiannus tu hwnt yn yr Uwchgynghrair yn y tymor aeth heibio.

Roedd sawl un wedi darogan y byddai Abertawe'n disgyn yn syth yn ôl i lawr i'r Bencampwriaeth, ond o dan arweiniad Rodgers fe wnaethon nhw orffen yn yr 11eg safle.

Yn y gêm olaf wythnos yn ôl, fe gurodd Abertawe Lerpwl yn Stadiwm Liberty o 1-0.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.