Anafiadau difrifol i fachgen yn Ffostrasol
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 11 oed o Geredigion yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar ôl cael anafiadau difrifol i'w ben.
Aed ag e mewn hofrennydd i'r brifddinas wedi'r ddamwain brynhawn Iau.
Roedd yn camu oddi ar fws ysgol yn Ffostrasol, ger Llandysul, pan gafodd ei daro gan gerbyd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol