Ffrae rhwng Plaid Cymru ac Unite

Leanne Wood Image copyright Other
Image caption Leanne Wood am ennill tir yng nghadarnleoedd Llafur

Mae cynnig gan arweinydd newydd Plaid Cymru wedi cael ei wrthod yn bendant gan arweinydd un o undebau llafur mwyaf Cymru.

Roedd Leanne Wood wedi estyn gwahoddiad i'r undeb i greu cynghrair newydd i wrthwynebu toriadau mewn gwariant cyhoeddus.

Ond disgrifiodd Andy Richards, ysgrifennydd Cymru i undeb Unite, y cynnig fel "ymdrech am gyhoeddusrwydd", gan ddweud y byddai ei undeb yn aros gyda'r Blaid Lafur.

Daw'r ffrae wedi i Ms Wood gwrdd ag aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyhoeddus a Masnachol (PCS) sydd ddim yn aelodau cyswllt o'r Blaid Lafur.

Mae hi wedi son am yr angen i gyrff uno i wrthod mesurau llymder llywodraeth y DU.

Gobaith cefnogwyr Ms Wood oedd y byddai creu cynghrair gydag Unite yn gymorth i ennill tir yng nghadarnleoedd Llafur.

'Sinigaidd'

Dywedodd Mr Richards bod amseru Plaid "mor sinigaidd ag yr oedd yn ddigywilydd" gan iddo ddod cyn cynhadledd y TUC yn Llandudno yr wythnos nesaf lle bydd yr undeb yn trafod "Sut Mae Gweithredu Datganoli?".

"Dim ond un blaid sydd yna i weithwyr Cymru, sef y blaid a sefydlwyd gan yr undebau llafur i gynnig llais i weithwyr - y Blaid Lafur," meddai Mr Richards.

Ond mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, wedi galw ar Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones i ymbellhau oddi wrth sylwadau Mr Richards.

"Mae ei sylwadau llwythol yn dangos yn glir mai ei flaenoriaeth yw beth sydd orau i'r blaid Lafur yn hytrach na beth sydd orau i'w aelodau," meddai.

Ychwanegodd bod Plaid Cymru wedi sefyll ochr yn ochr gydag aelodau Unite er mwyn gwarchod swyddi a phensiynau tra bod Ed Miliband wedi dweud y bydd cyfyngu ar gyflogau'r sector cyhoeddus yn parhau pe bai ef mewn grym.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae clywed Leanne Wood a Phlaid Cymru yn son am fod yn llwythol mor druenus gan fod hynny'n dod gan blaid sy'n cael eu harwain gan un egwyddor, sef gwleidyddiaeth lwythol ymwahanrwydd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.